Johnny Herford
Him
Yma, mae Michael McCarthy yn ein harwain drwy gyflwyniad byr i gantorion Passion, ac yn nodi sut, yn ei farn ef, y byddant yn mynd i’r afael â’r heriau mae’r gwaith hwn yn eu taflu atynt!
Johnny Herford fydd yn chwarae rhan ‘HIM’: Mae Johnny wedi cael ei gastio yn anad dim oherwydd ei lais bariton hyfryd, meddal a chlir, sy’n berffaith ar gyfer cyfleu elfen delynegol y rôl hon – mae’n sicr o wneud iddi swnio’n wych. Mae Johnny wedi perfformio ddwywaith eisoes gyda MTW, cyn ymgymryd â Passion, yn cynnwys creu’r rôl Joseph K yn The Trial gan Philip Glass. Mae ei sgìl anhygoel ar gyfer dysgu a pherfformio cerddoriaeth newydd yn gwbl amlwg. Felly hefyd ei lawenydd wrth berfformio rolau sy’n gofyn llawer ohono, yn gorfforol ac yn theatraidd, ac sy’n ei wthio i feysydd dieithr fel perfformiwr. Mae Passion yn mynnu’r parodrwydd hwn i chwilota a bod yn chwilfrydig. Dyna, wedi’r cwbl, yw MTW – mae’n ymwneud â darganfod, archwilio a rhannu gwaith newydd, gan ymestyn i feysydd anhysbys a gweld beth all ddigwydd.
Graddiodd Johnny Herford â chlod uchel o adran opera yr Academi Gerdd Frenhinol yn 2012, a’r flwyddyn ganlynol enillodd y wobr am Gân yng Nghystadleuaeth Kathleen Ferrier, ac yn ddiweddarach y Jean Meikle Duo Prize ar y cyd â’r pianydd William Vann yn y Wigmore Hall International Song Competition. Yn gynharach eleni cafodd ei anrhydeddu fel Cysylltai yr Academi Gerdd Frenhinol.
Yn 2015, dewiswyd Johnny gan Philip Glass i greu rhan Josef K yn ei opera ddiweddaraf, The Trial. Cafodd yr opera ei pherfformiad cyntaf yn Theatr Linbury y Tŷ Opera Brenhinol, mewn cydweithrediad rhwng Music Theatre Wales a’r Tŷ Opera Brenhinol. Fel cydnabyddiaeth o’i berfformiad, enwebwyd Johnny yng Ngwobrau Theatr Cymru 2015 yn y categori Gwobr am y Perfformiad Gwryw Gorau mewn Opera yn 2015. Mae e hefyd wedi perfformio rhan ar gyfer Theater Magdeburg, a hynny ym Magdeburg ac yn Craiova, Romania. Dychwelodd at Music Theatre Wales yn 2016 ar gyfer The Golden Dragon gan Peter Eötvös.
Yn gynharach eleni, ymddangosodd yn yr Opera di Roma fel ‘Novice’s Friend’ yng nghynhyrchiad arobryn Deborah Warner o Billy Budd, a’r llynedd ymddangosodd am y tro cyntaf gyda’r English National Opera yng nghynhyrchiad Mike Leigh o The Pirates of Penzance. Mae ei berfformiadau diweddar eraill yn cynnwys rhannau The Traveller yn Curlew River gan Britten (Opéra de Dijon), Kuligin yn Katya Kabanova gan Janácek (Opéra de Dijon), Emireno yn Ottone gan Handel (English Touring Opera), taith o uchafbwyntiau operatig gyda Scottish Opera, a Nikitch yn Boris Godunov gan Mussorgsky gyda Cherddorfa’r Philharmonia. Mae ei berfformiadau ar y gweill yn cynnwys Wuthering Heights gan Bernard Herrmann gyda’r Opéra National de Lorraine yn Nancy.
Yn ddiweddar, ymddangosodd Johnny fel unawdydd am y tro cyntaf yn Neuadd Wigmore mewn rhaglen o gerddoriaeth Ravel, Schumann a Judith Weir, gyda James Baillieu yn cyfeilio. Yn ogystal, mae e wedi perfformio gyda Joe Middleton yng Ngŵyl Lieder Leeds, gyda William Vann yng Ngŵyl Machynlleth Julius Drake, ac yng Ngŵyl Lieder Rhydychen, a gyda Gary Matthewman yn y cyngherddau Lied in London.
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf cyhoeddwyd nifer o’i recordiadau, gan gynnwys The Trial gan Philip Glass, a gwaith Ralph Vaughan Williams ar ddisg dan y teitl “Purer than Pearl”, recordiad o waith gan Fauré gyda Cherddorfa St John’s, a recordiadau o ganeuon cyfoes o Loegr ar gyfer Navona Records a Divine Art Recordings.
Ar y llwyfan cyngerdd mae’n ymddangos fel unawdydd mewn cerddoriaeth sy’n ymestyn o gyfnod Monteverdi hyd at y cyfansoddwyr cyfoes, yn cynnwys Bach Passions a B-Minor Mass, Haydn Seasons, Mendelssohn Elijah, Brahms German Requiem, Mahler Rückert-Lieder, a Vaughan Williams Five Mystical Songs.