Ted Huffman, Awdur a Chyfarwyddwr
Mae Ted Huffman, sydd wedi'i leoli yn Llundain, yn awdur a chyfarwyddwr sy'n fwyaf adnabyddus am ei waith ym maes opera gyfoes.
Enillodd Denis & Katya - ei opera ddiweddaraf gyda'r cyfansoddwr Philip Venables a gomisiynwyd gan Opera Philadelphia - Wobr Fedora Generali 2019. Mae'r adolygwyr wedi cyfeirio at y gwaith fel "an intimate, haunting triumph" (New York Times), "a monumental, dramatically shattering event" (Parterre Box), a "the most brilliantly original operatic work I've seen in a decade . . . a sensitive, subtle and deeply questioning meditation on youth, voyeurism, and the age of social media" (Musical America).
Ar y cyd â Venables, mae e hefyd wedi ysgrifennu Alice ar gyfer llais tenor a phiano, yn seiliedig ar atgofion y tenor Daniel Shelvey o'i fam-gu, a The Big History of Little England, opera i blant sy'n adrodd stori Lloegr o'r 'Big Bang' hyd at Brexit mewn deuddeg munud. Ar hyn o bryd, maen nhw'n gweithio ar gomisiwn llawn arall.
Yn ystod tymor 2019/20, bydd Ted yn gwneud ei ymddangosiadau cyntaf fel cyfarwyddwr yn y Deutsche Oper Berlin, Palau de les Arts Reina Sofia, Opéra national du Rhin ac Opera Philadelphia, yn ogystal â dychwelyd i Opernhaus Zürich, Festival d'Aix-en-Provence, ac Opéra national de Montpellier ar gyfer cynyrchiadau newydd.
Enillodd ei gynhyrchiad o 4.48 Psychosis (Venables/Kane) ar gyfer y Royal Opera House Wobr yr UK Theatre am y Cynhyrchiad Opera Gorau, yn ogystal ag enwebiadau am y cynhyrchiad gorau ar gyfer Gwobr Oliver, Gwobr RPS, a Gwobr South Bank Sky Arts. Teithiodd y cynhyrchiad hwn i'r Prototype Festival (NYC) ac i'r Opéra national du Rhin. Derbyniodd ei gynhyrchiad o Il trionfo del tempo e del disinganno ar gyfer y Royal Theater Copenhagen a Malmö Opera enwebiad Gwobr Reumert ac enwebiad Gwobr Copenhagen Culture am yr Opera Orau, a chaiff ei pherfformio y flwyddyn nesaf yn yr Opéra national de Montpellier. Mae ei wobrau eraill yn cynnwys Gwobr WhatsOnStage, enwebiad Gwobr RPS am The Lighthouse (Maxwell-Davies) yn y Linbury Theatre ac enwebiad fel Cyfarwyddwr Gorau yn yr Opernwelt Jahrbuch ar gyfer El Cimarrón (Henze).
Mae gwaith Ted yn y gorffennol yn cynnwys Madama Butterfly (Opernhaus Zürich), Rinaldo (Oper Frankfurt), Salome (Oper Köln), Le premier meurtre gan Arthur Lavandier (Opéra de Lille), A Midsummer Night's Dream (Opéra national de Montpellier), Macbeth gan Luke Styles (Glyndebourne), Svádba gan Ana Sokolovic (Festival Aix-en-Provence, Opéra Angers-Nantes, Les Théâtres de la ville de Luxembourg, Festival Ljubljana), Les mamelles de Tirésias gan Poulenc (La Monnaie, Festival d'Aix-en-Provence, Dutch National Opera, Juilliard Opera, Aldeburgh Festival), a Der Kaiser von Atlantis gan Ullmann (Central City Opera, Juilliard Opera, Greenwich Music Festival).
Ac yntau'n dod yn wreiddiol o Efrog Newydd, astudiodd Ted y Dyniaethau ym Mhrifysgol Yale cyn mynd yn brentis gyda'r Merola Opera Program, San Francisco. Roedd e'n Gymrawd MacDowell yn 2017.